Gwartheg wedi marw ar ôl bwyta gwastraff gwenwynig
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Mae tri o wartheg wedi marw ar ôl bwyta darnau o goed gwenwynig oedd wedi eu gadael ar dir fferm yng Nghonwy.
Fe gafodd y gwartheg Ffrisiad eu darganfod yn Nolwen ger Hen Golwyn ddydd Gwener ar ôl bwyta darnau oedd wedi cael eu torri o goed ywen a leylandii.
Dywedodd Sarjant Rob Taylor o uned troseddau cefn gwlad Heddlu'r Gogledd y bydd profion post mortem yn dangos pa blanhigion oedd ar fai.
Ychwanegodd bod y llu yn ymchwilio i bwy oedd yn gyfrifol am adael y darnau o goed ar dir y ffermwr.
"Mae ymddygiad hunanol rhywun sydd wedi gadael eu gwastraff yma wedi lladd tri o anifeiliaid," meddai.
Mae'n annog i unrhyw un sydd â gwybodaeth i alw 101.