Awyren yn glanio mewn argyfwng yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Bu rhaid i'r awyren lanio ar dir Fferm Neuadd Talbenni yn Aberdaugleddau
Mae awyren fechan wedi ei gorfodi i lanio mewn argyfwng yn Sir Benfro.
Roedd rhaid i'r awyren dwy sedd lanio ar dir Fferm Neuadd Talbenni yn Aberdaugleddau am 16:30 ddydd Sadwrn.
Fe gafodd y gwasanaeth tân ac achub eu galw i'r digwyddiad ond doedd neb wedi'u hanafu.