Cloddiwr yn taro tafarn yn Abertawe

Royal Oak
Image caption Roedd y cloddiwr wedi taro tafarn y Royal Oak ym Mhenclawdd yn oriau cynnar dydd Sul

Mae cloddiwr wedi gyrru i mewn i dafarn yn Abertawe.

Dywedodd Heddlu'r De ei fod wedi derbyn adroddiadau bod cloddiwr JCB wedi taro tafarn y Royal Oak ym Mhenclawdd am tua 01:00 fore Sul.

Bu rhaid i'r gwasanaeth tân fynychu'r digwyddiad i sicrhau bod yn adeilad yn ddiogel.

Dywedodd yr heddlu nad oedd neb wedi'u hanafu, a'u bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Does neb wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.