Swyddi cynhyrchu: 'Bwlch o 8,000' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Weldio
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r diwydiant cynhyrchu yn cyflogi 157,000 o bobl yng Nghymru

Mae rhybudd y gallai Cymru wynebu bwlch enfawr yng ngweithlu'r diwydiant cynhyrchu - gyda chwmnïau yn cael trafferth llenwi 8,000 o swyddi erbyn 2018.

Yn ôl corff cyflogwyr EEF, mae Cymru yn perfformio'n well na'r disgwyl, gyda'r diwydiant cynhyrchu yn tyfu'n gynt yma nac unman arall yn y DU.

Ond mae pryder am gynhyrchiant yn y tymor hir a diffyg sgiliau.

Mae'r diwydiant cynhyrchu yn cyflogi 157,000 o bobl yng Nghymru, gydag adrannau bwyd a diod a thrafnidiaeth yn perfformio'n gryf.

Mae adroddiad rhanbarthol EEF yn dweud fod nifer y swyddi yn y sector wedi cynyddu 15% rhwng 2010 a 2014.

Ond mae'n dweud bod y momentwm wedi lleihau ar draws y DU ers y llynedd.

'Paratoi'r sector'

Dywedodd Gareth Jenkins, rheolwr-gyfarwyddwr cwmni FSG Tool and Die yn Llantrisant: "Mae EEF yng Nghymru wedi cydnabod, mewn sector sy'n cyflogi 160,000 o bobl, bydd 'na fwlch o 8,000 o bobl erbyn 2018.

"Mae angen paratoi'r sector ar gyfer y dyfodol i barhau'n gystadleuol."

Fe gafodd strategaeth 10 mlynedd i wella sgiliau ei lansio gan Llywodraeth Cymru y llynedd.

Fe wnaeth adroddiad EEF hefyd ddarganfod bod y diwydiant cynhyrchu yn allforio'n llwyddiannus i ogledd America, y Dwyrain Canol a gogledd Africa, gan "roi Cymru ar y map".

Ond dywedwyd bod cynhyrchwyr o Gymru wedi sgorio isaf yn y DU am hyder yn eu busnesau.