Merch ag anafiadau difrifol ar ôl disgyn i mewn i chwarel
- Cyhoeddwyd
Mae merch 17 oed wedi'i hanafu'n ddifrifol ar ôl disgyn i mewn i chwarel yng Nghonwy.
Roedd y ferch ag anaf i'w phen ar ôl disgyn yn Llandudno yn hwyr nos Sadwrn.
Cafodd hi ei hachub gan griw ambiwlans, aelodau o dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a hofrennydd gwylwyr y glannau.
Fe gafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn yr hofrennydd.