Cynllun i ddynodi ardal i buteiniaid yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Gallai rhan o Gasnewydd ei wneud yn ardal sydd wedi ei ddynodi ar gyfer puteindra.
Fe allai'r cynlluniau sy'n cael eu hystyried gan Heddlu Gwent weld rhan o Pillgwenlli yn cael ei wneud yn un penodol i gael ei ddefnyddio gan buteiniaid.
Mae'n dilyn cynllun tebyg yng ngogledd Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae swyddogion a chynghorwyr lleol yn realistig am y ffaith y bydd puteindra wastad yn bodoli ac mae wedi cael ei ddangos nad yw gorfodaeth ar ei ben ei hun yn ddatrysiad effeithiol."
'Nifer fechan'
Yn ôl y llu, megis dechrau mae'r cynlluniau a ni fydd penderfyniad yn cael ei wneud nes i swyddogion edrych ar dystiolaeth o gynlluniau arall a thrafod gyda thrigolion, busnesau a'r cyngor.
"Nifer fechan o buteiniaid sydd yng Ngwent ond mae'r nifer bach sydd yna yn gweithio yn ardal Pill yng Nghasnewydd yn bennaf, sy'n effeithio ar fywydau trigolion lleol," ychwanegodd y llefarydd.
"Er ein bod yn gallu monitro a gweithio gydag unigolion sy'n gweithio oddi ar y stryd, mae puteindra ar y strydoedd wedi profi yn fwy anodd."
Dywedodd Heddlu Gwent bod cynlluniau tebyg wedi cynyddu nifer yr adroddiadau o droseddau yn erbyn puteiniaid a galluogi asiantaethau eraill i weithio gyda nhw i adael y diwydiant rhyw.