Rhybudd gwyntoedd cryfion i dde Cymru
- Cyhoeddwyd

Bydd y rhybudd melyn mewn lle am 15 awr ddydd Llun
Mae rhybudd tywydd wedi ei osod ar draws de a rhannau o'r canolbarth am wyntoedd cryfion.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi gosod rhybudd melyn 'byddwch yn ymwybodol' sydd mewn lle rhwng 06:00 i 21:00 ddydd Llun.
Mae disgwyl gwyntoedd hyd at 45mya, a allai gyrraedd 50mya ar yr arfordir.
Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y dylai gyrwyr ddisgwyl amgylchiadau anodd, yn enwedig ger yr arfordir ac mewn ardaloedd mynyddig.