Dynes wedi ei thorri o gar ar ôl damwain
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd ddau griw eu gyrru i Heol Cae Drain yn Henllan ychydig cyn 13:00
Mae dynes wedi ei thorri o gar wedi iddo droi drosodd mewn damwain yn Sir Ddinbych.
Dywedodd y gwasanaeth tân ac achub bod dau griw wedi cael eu gyrru i Heol Cae Drain yn Henllan, ger Dinbych, ychydig cyn 13:00 ddydd Sul.
Fe wnaeth y gwasanaeth tân sefydlogi'r cerbyd a bu'n rhaid defnyddio offer torri i'w rhyddhau o'r car.
Fe gafodd y ddynes ei thrin gan barafeddygon wedi iddi gael ei rhyddhau.