Le Tour: Dau Gymro'n rhan o fuddugoliaeth Team Sky
- Cyhoeddwyd

Wrth i Chris Froome ennill y Tour De France am yr eilwaith, mae dau Gymro yn dathlu ei helpu i gyrraedd y podiwm ym Mharis.
Dyma'r tro cyntaf erioed i ddau Gymro gymryd rhan yn yr un Tour De France, ac roedd y ddau yn reidio i'r tîm fu'n fuddugol yn ras feicio enwocaf y byd.
Fe lwyddodd Geraint Thomas i orffen yn y 15fed safle, ei berfformiad gorau yn y ras wedi iddo orffen yn 22ain y llynedd.
Fe wnaeth ei gyd-Gymro yn Team Sky, Luke Rowe, lwyddo i orffen yn 136ain ar ei ymddangosiad cyntaf yn y Tour.
Doedd dim disgwyl i Thomas na Rowe ennill unrhyw ddiwrnod gan mai gweithio i'r tîm a thywys Froome ar draws Ffrainc oedd eu rôl nhw.
Ond roedd Thomas wedi bod yn y 10 uchaf am y mwyafrif o'r Tour, cyn iddo golli amser dros y diwrnodau olaf.
Dros dair wythnos, bu'r cystadleuwyr ar y ffordd am dros 84 awr a 3,360 cilometr (2,100 milltir).
Mae Thomas, 29 oed, a Rowe, 25 oed, wedi bod yn rasio gyda'i gilydd ers blynyddoedd, gyda'r ddau yn arfer bod yn aelodau o Glwb Seiclo Maendy yng Nghaerdydd pan oedden nhw'n iau.