Saethu Abercynon: Heddlu'n arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi arestio dyn 46 oed wedi i ddyn gael ei saethu ar ochr y ffordd ger Abercynon yn Rhondda Cynon Taf.
Fe gafodd y dyn, sydd o ardal Aberpennar ei arestio brynhawn Llun ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.
Fe glywyd dwy ergyd o gar y dyn gafodd ei saethu - Audi A3 gwyn - mewn llecyn ar ochr y ffordd nos Sul.
Mae Mark Jones, 43 oed o Aberpennar, mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty'r Tywysog Charles.
Bu rhan o'r A4059 rhwng Aberpennar ac Abercynon ynghau am gyfnod wrth i'r heddlu ymchwilio i "ddigwyddiad difrifol".
Fe gafodd swyddogion eu galw yno tua 19:40 nos Sul.
'Blaenoriaeth'
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Ceri Hughes: "Mae'r digwyddiad wedi achosi gofid i aelodau'r cyhoedd a hoffen ni roi sicrwydd iddyn nhw fod delio â'r digwyddiad yn flaenoriaeth.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans eu bod nhw wedi ymateb i'r digwyddiad "gan anfon cerbyd ymateb brys, ambiwlans brys a thîm arbenigol i ymateb i ardal beryglus."
Gall unrhywun â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101, neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555111, a nodi'r cyfeirnod 1500271720.