Corff mewn llyn: Dyn 18 oed wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Llyn y FelinFfynhonnell y llun, N Chadwick
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd hyd i'r corff yn Llyn y Felin ym Mhenfro

Mae dyn 18 oed wedi marw ar ôl cael ei ganfod mewn llyn yn Sir Benfro yn oriau mân bore Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Lyn y Felin ger Castell Penfro am 2.40am, wedi adroddiadau fod y dyn wedi mynd i drafferthion yn y dŵr.

Bu timau achub arbenigol y Gwasanaeth Tân, Gwylwyr y Glannau a'r Awyrlu yn rhan o'r ymgyrch i achub y dyn.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod.