Sefydlu cwmni teledu newydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Jane Tranter a Julie Gardner
Disgrifiad o’r llun,
Jane Tranter a Julie Gardner sy'n gyfrifol am sefydlu BAD WOLF

Mae dwy o gyn uwch-gynhyrchwyr y BBC - oedd yn gyfrifol am ailwampio cyfres Doctor Who - wedi sefydlu cwmni teledu newydd yn ne Cymru.

Bwriad cwmni cynhyrchu BAD WOLF yw creu rhaglenni teledu a ffilmiau ar gyfer pen ucha'r farchnad deledu ryngwladol, hynny yn Los Angeles ac yn Ne Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymuno â Jane Tranter a Julie Gardner - cyn uwch gynhyrchwyr yn y BBC a fu'n gyfrifol am Doctor Who, Torchwood a Da Vinci's Demons - i gefnogi'r cwmni.

Mae gobaith y bydd y fenter yn dod â rhyw £100 miliwn i economi Cymru dros y 10 mlynedd nesaf, a hynny "trwy arlwy gynhyrchu uchelgeisiol a phartneriaethau â darlledwyr rhyngwladol".

Mae'r cwmni ar fin arwyddo cytundebau datblygu â rhwydweithiau a stiwdios yn yr Unol Daleithiau, ac mae wrthi'n trafod â darlledwyr yn y DU ac Ewrop.

Jane Tranter a Julie Gardner oedd penaethiaid Drama'r BBC tan 2008 a chyda Russell T Davies, nhw fu'n gyfrifol am roi'r hwb i gychwyn y diwydiant teledu yng Nghymru, gyda Doctor Who a Torchwood ddegawd yn ôl.

Symudon nhw wedi hynny i Los Angeles i redeg BBC Worldwide Productions.

Dadansoddiad gohebydd celfyddydau a chyfryngau BBC Cymru, Huw Thomas

Mae Julie Gardner yn enw eiconig yn niwydiannau teledu naill ochr i Fôr yr Iwerydd.

Ei dawn am ddatblygu a chynhyrchu cyfresi trawiadol sy'n ysgogi hyder yng Nghymru am ei chynlluniau i'r dyfodol.

Fe fydd BAD WOLF yn targedu'r farchnad lewyrchus am ddramâu a chyfresi teledu gyda chyllidebau uchel, ac yn dod â'r gwaith yna i Gymru.

Mae gan Julie Gardner a'i phartner busnes Jane Tranter digon o brofiad yn y maes yma yn barod, yn enwedig ar ôl trefnu i'r gyfres hanesyddol Da Vinci's Demons ddefnyddio stiwdios newydd Bae Abertawe tan yn ddiweddar.

Bydd rhaid aros i fesur rhagolygon y llywodraeth mai £100m yw gwerth y penderfyniad i leoli'r busnes yng Nghymru, ond yn sicr mae enwau da y ddau gynhyrchydd yn codi calonnau'r rhai sydd am i'r diwydiannau creadigol ffynnu.

'Gweddnewid economi greadigol'

Fe groesawodd Gweinidog yr Economi Edwina Hart y buddsoddiad. Meddai: "Y Diwydiannau Creadigol yw un o'r sectorau blaenoriaeth sy'n tyfu gyflymaf.

"Rydym am i Gymru gael enw am fod yn ganolfan o ragoriaeth ryngwladol ar gyfer drama deledu o'r radd flaenaf ac mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o'n cynllun i greu diwydiant teledu cynaliadwy a thymor hir yng Nghymru.

"Gyda Pinewood Studio Cymru, bydd y cwmni newydd talentog hwn â'i rwydweithiau eang yn sicrhau bod Cymru'n cynhyrchu rhaglenni teledu i'r byd am flynyddoedd i ddod.

"Mae gan Jane a Julie berthynas gref a hir â darlledwyr yn America a bydd eu rhestr o gynyrchiadau rhyngwladol yn bwysig iddynt wrth ddatblygu a chynnal eu criw o weithwyr yng Nghymru.

"Mae potensial i'r buddsoddiad hwn weddnewid yr economi greadigol yng Nghymru. Bydd yn cynnal un o ganolfannau cynhyrchu drama deledu cynaliadwy mwyaf Prydain y tu allan i Lundain ac yn helpu i ddenu mwy o fuddsoddi, cryfhau sgiliau a'r gadwyn gyflenwi a chreu manteision diwylliannol ac i dwristiaeth."

'Gwefr'

Dywedodd Jane Tranter, cyd-sylfaenydd Bad Wolf: "Mae'r byd teledu wedi newid yn llwyr yn y degawd diwethaf. Mae cynyrchiadau rhyngwladol anferth sy'n defnyddio cyllidebau ar raddfa ffilm wedi sicrhau bod teledu Prydain ym mlaen y gad yn y chwyldro hwn.

"Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu'r diwydiant i dyfu ac i roi hwb i economi Cymru. Mae Llywodraeth Cymru'n deall, trwy roi lle blaenllaw i Gymru yn y diwydiant, y gallai ymhen degawd fod yn un o'i arweinwyr."

Dywedodd Julie Gardner, MBE: "Mae Jane a finne wedi ffilmio ym mhob rhan o'r byd a gallwn ddweud o brofiad bod y talentau yn Ne Cymru gyda'r gorau.

"Mae'n wefr inni gael dechrau ar y fenter newydd hon yng nghanol cymaint o dalent ac angerdd."