Prifysgol De Cymru: Cau safle yn Llundain
- Cyhoeddwyd

Mae yna feiriniadaeth o Brifysgol De Cymru ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod canolfan newydd gafodd ei sefydlu gan y brifysgol yn Llundain y llynedd, ar gost o £319,000, wedi cau.
Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth, doedd dim myfyrwyr wedi cofrestru ar yr 11 cwrs ôl-raddedig oedd ar gael yn y ganolfan yn ardal dociau'r brifddinas, ger canolfan ariannol Canary Wharf.
Mae aelodau undeb y GMB wedi galw'r brifysgol yn wastraffus am agor canolfan yn Llundain wrth gau campws yng Nghasnewydd gan roi 90 o swyddi yn y fantol.
Yn ôl Prifysgol De Cymru "roedd hi'n synhwyrol dod â chynllun Canolfan Llundain i ben yn gynt na'r bwriad o ystyried y newidiadau i gyflwr y farchnad".
'Di-hid'
Roedd gan y fenter gyllideb o £750,000 ac mae dogfennau'r brifysgol yn dangos eu bod nhw wedi cyflogi pedwar aelod o staff am gyfnod o bedwar i saith mis.
Y disgwyl oedd y byddai'r cyrsiau yn dechrau ym mis Medi ond mae cais rhyddid gwybodaeth yn dangos nad oedd unrhyw fyfyrwyr wedi cofrestru am gwrs erbyn mis Ionawr eleni.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol bod cynllun busnes y fenter wedi ei seilio ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, ond bod newidiadau mewn rheolau fisa wedi creu "lefel o gymhlethdod gafodd effaith ar ymarferoldeb y cynllun".
Ond yn ôl Gareth Morgans, un o swyddogion undeb y GMB roedd hi'n annoeth i'r Brifysgol i sefydlu'r ganolfan.
"Mae gen i hyd at 90 o aelodau yn y Brifysgol yng Nghaerllion sydd dan fygythiad o golli eu swyddi, ac iddyn nhw mae'r newyddion yma yn dorcalonnus; y gallai'r brifysgol wastraffu arian mor ddi-hid ar fenter oedd, hyd y gwelwn ni, byth yn mynd i ddwyn ffrwyth," meddai.
Dywedodd Mr Morgans ei fod yn amau y byddai cost y ganolfan yn Llundain hefyd wedi bod yn ddrud.
Er nad oedd Prifysgol De Cymru yn fodlon dweud wrth BBC Cymru beth yn union oedd cost y fenter, fe wnaethon nhw gadarnahau eu bod wedi gwario ar:
- Gost marchnata, gan gynnwys deunydd cyhoeddusrwydd a hysbysebion. Roedd rhan o'r gwariant yn ymwneud a hyrwyddo'r brifysgol yn gyffredinol;
- Costau staff, sef pedwar aelod o staff am gyfnod o bedwar i saith mis. Doedd y brifysgol ddim yn fodlon datgelu'r gost;
- Offer, gan gynnwys Technoleg Gwybodaeth a Llyfrgell. Cafodd yr offer ei ddychwelyd i Brifysgol De Cymru ar gyfer ei ddefnyddio ar y sawl campws yn Ne Cymru.
DADANSODDIAD
Roedd Prifysgol De Cymru yn disgwyl y byddai rhwng 40-50 o fyfyrwyr yn cael eu denu i'w chanolfan yn Llundain o Fis Medi'r llynedd, ac mi fydd hi'n gryn embaras iddyn nhw eu bod nhw wedi gorfod dirwyn y cyfan i ben yn gynt na'r disgwyl.
Yn aml mae canolfannau prifysgolion yn Llundain wedi eu targedu ar gyfer denu myfyrwyr rhyngwladol o du hwnt i'r Undeb Ewropeaidd.
Ond mae honno yn farchnad eithriadol o gystadleuol, a gyda chynifer o sefydliadau eraill yn mynd ar ôl yr un myfyrwyr, efallai nad ydy hi'n syndod i sefydliad mor ifanc â Phrifysgol De Cymru, sefydlwyd yn 2013, i fethu a llwyddo yn fan hyn.
Mae hi hefyd werth cofio bod y misoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd iawn i rai sy'n ceisio denu myfyrwyr o du hwnt i'r Undeb Ewropeaidd.
Mae hi hefyd werth cofio'r holl drafferthion sydd wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf ynglŷn â visas rhai myfyrwyr rhyngwladol mewn sefydliadau fel Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.
Bellach mae yna fwy o graffu nag erioed ar ddarpar fyfyrwyr rhyngwladol, gyda Theresa May, yr ysgrifennydd Cartref yn Llywodraeth Prydain yn bod yn fwy llym ar ganiatáu iddyn nhw ddod i Brydain i astudio.
Mae hi'n bosib y gallai'r holl ffactorau yna fod wedi cyfrannu at fethiant Prifysgol De Cymru.