Dechrau gwaith ar orsaf dân yn Aberystwyth ar gost o £1.6m
- Published
image copyrightArall
Mae gwaith wedi dechrau ar orsaf dân yn Aberystwyth sy'n costio £1.6m.
Bydd yr orsaf newydd ar yr un safle yn Heol Penparcau, Trefechan.
Dywedodd Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin y byddai'n barod o fewn 10 mis.
Bydd y dymchwel yn dechrau yn ddiweddarach yr wythnos hon ac, yn y cyfamser, mae diffoddwyr wedi symud i Ganolfan y Fyddin Dirogaethol.
image copyrightArall