Plaid Cymru i drafod dyfodol Dafydd Elis-Thomas

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Elis-Thomas
Disgrifiad o’r llun,
Bu'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn Llywydd y Cynulliad rhwng 1999 a 2011

Mae cyfarfod arbennig nos Fawrth yn trafod dyfodol yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas o fewn Plaid Cymru.

Aelodau'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol sy'n trafod y mater gydag aelodau'r blaid yn lleol mewn cyfarfod ym Mhorthmadog.

Mae Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd yn wynebu camau disgyblu yn dilyn cyfweliadau a roddodd yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

Mae nifer o aelodau cynulliad Plaid Cymru yn anhapus gyda beirniadaeth Yr Arglwydd Elis-Thomas o'r ymgyrch.

Yn ôl cyn Lywydd y Cynulliad, roedd gorbwysleisio'r neges y dylai Cymru gael yr un chwarae teg ariannol â'r Alban yn gamgymeriad.

Dywedodd nad oedd yn ymddangos bod yr ymgyrch wedi canolbwyntio ar ddyfodol Cymru.

Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd Dafydd Elis-Thomas ei ethol i'r Tŷ Cyffredin yn 1974 pan oedd yn 27 mlwydd oed

Mae wedi tynnu'n groes i arweinyddiaeth Leanne Wood ar amseriad y refferendwm ar ddyfodol yr Undeb Ewropeaidd, gan ddweud y gallai cynnal y refferendwm ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf roi hwb i nifer a bleidleisiodd.

Eisoes mae wedi cael ei ddewis yn ymgeisydd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf. Y gosb eithaf fyddai cael ei ddad-ethol.

Y disgwyl yw bod Prif Weithredwr Plaid Cymru Rhuanedd Richards a'r cadeirydd Dafydd Trystan yn y cyfarfod. Byddan nhw'n cymryd barn leol yn ôl i gyfarfod y pwyllgor gwaith fis nesaf.

Mae Ms Wood eisioes wedi dweud mai'r blaid, nid hi, fydd yn datrys y mater.

DADANSODDIAD

Y cwestiwn mawr i'r naill ochr ydi i ba raddau all yr Arglwydd Elis-Thomas chwarae mewn tîm?

Ar ei dudalen Twitter mae'n galw ei hun yn "amgylcheddwr annibynnol" a does dim sôn am Blaid Cymru.

Cafodd y chwip ei dynnu oddi arno yn 2012 am fethu pleidlais bwysig ar ddyfodol y gweinidog iechyd ar y pryd, Lesley Griffiths.

Ond y feirniadaeth ddiweddar o ymgyrch Plaid yn yr etholiad cyffredinol sydd wedi peryglu ei ddyfodol o fewn y blaid.

Mewn cynadleddau newyddion wythnosol bu aelodau cynulliad blaenllaw Plaid yn troi'n anesmwyth iawn yn eu cadeiriau wrth i newyddiadurwyr ofyn iddyn nhw gefnogi'r cyn-lywydd.

I'w gefnogwyr, dyma awdurdod cyfansoddiadol a gwleidydd sydd yn barod i drafod ag eraill yn hytrach na gwleidydd sydd yn chwarae gwleidyddiaeth. Yn y gorffennol bu'r aelodau yn lleol yn driw iawn tra roedd o'n troedio'n agos at y ffin.

Os ydi'r ewyllys da yn parhau mi fydd y pwyllgor gwaith yn ei chael hi'n anodd gwneud mwy na rhoi cerydd (arall). Os ydi'r berthynas wedi chwalu tybed fydd Dafydd Elis-Thomas, Aelod Annibynnol, ar y papur.

Disgrifiad o’r llun,
Tra'n Llywydd, roedd yn rhaid i'r Arglwydd Elis-Thomas ofyn i Leanne Wood adael siambr y Cynulliad yn 2004 wedi iddi wneud sylwadau dilornus am y Frenhines