Datgelu cynllun £600m ar iechyd yn y de orllewin
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau gwerth £600 miliwn i drawsnewid gwasanaethau ysbytai yn ne-orllewin Cymru wedi cael eu datgelu.
Fe fydd Ysbyty Treforys Abertawe yn dyblu o ran maint ac yn dod yn ganolfan ranbarthol ar gyfer triniaethau arbenigol.
Fe fydd ysbyty arall y ddinas, Singleton, fyn cael ei datblygu yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gofal diagnostig, a fydd yn gweithio'n agos gyda meddygon teulu, optegwyr a deintyddion.
Mae ail-hyfforddi'r gweithlu a datblygu parc gwyddoniaeth feddygol hefyd yn rhan o'r cynlluniau.
Mae'r prosiect - Cydweithio Rhanbarthol am Iechyd - yn gydweithrediad rhwng byrddau iechyd Hywel Dda ac Abertawe Bro Morgannwg ynghyd â Phrifysgol Abertawe.
Miliwn o bobl
Mae'n cynnwys chwe ardal awdurdod lleol, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe - ardal sy'n gartref i tua miliwn o bobl.
Os bydd y llywodraeth yn cefnogi'r cynlluniau ac yn noddi'r datblygiad, gallai arwain at gyllid o Ewrop, cyllid cyfalaf y GIG a buddsoddiad preifat.
"Mae'r cynllun yn torri'n rhydd o system gofal iechyd sydd wedi dyddio ers dros 50 mlynedd yn ôl ac yn methu a chyrraedd anghenion cymdeithas heddiw," meddai cyfarwyddwr strategaeth PABM , Siân Harrop-Griffiths.
"Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar gadw pobl yn iach, neu reoli clefydau yn well pan fyddant yn sâl."meddai.
Mae'r Athro Marc Clement, prif weithredwr y Sefydliad Gwyddorau Bywyd Prifysgol Abertawe, wedi dweud ei fod yn barod iawn i helpu'r cynllun i gael "enw da yn fyd-eang ar gyfer gofal iechyd a lles cleifion".
Dywedodd: "Bydd y bartneriaeth yn darparu gofal iechyd o'r radd flaenaf, yn darparu sgiliau, datblygu talent ac arloesed.
"Mae'n bwysig iawn ein bod yn dechrau ar unwaith i gyflwyno'r prosiect hwn er mwyn cael gwasanaeth cwbl integredig erbyn 2020.
"Y nod yw denu'r dalent gorau er mwyn rhoi'r safon uchaf o wasanaeth i bobl."