Toriadau lles: 'Angen ystyried iawndal'
- Cyhoeddwyd

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried talu iawndal i bobl sydd ar eu colled oherwydd y dreth 'stafell wely, yn ôl un o bwyllgorau craffu'r Cynulliad.
Roedd y newid, oedd yn golygu dileu cymhorthdal i denantiaid tai cymdeithasol oedd ag ystafelloedd gwag, yn rhan o ddiwygiadau lles gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth yr Alban yn rhoi cymorth ariannol i'r rhai sydd ar eu colled, ac mae ACau am i Lywodraeth Cymru wneud yr un peth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnig cymorth ond nad oedden nhw'n gallu lleihau effaith pob toriad.
Arweiniad
Daeth ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i effaith y newidiadau i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i ysgafnhau'r baich, a chymryd fwy o arweiniad.
Ar ôl clywed tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol a darparwyr cyngor, fe wnaeth y pwyllgor 17 o argymhellion, gan gynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru wella eu hymateb i newidiadau yn y dyfodol, a sicrhau bod Cymru yn paratoi'n well o ran rhagweld effaith newidiadau.
Dywedodd Darren Millar, Cadeirydd y Pwyllgor: "Yn groes i arfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae'r adroddiad hwn yn trafod goblygiadau polisi nad ydynt wedi'u datganoli a'u heffaith ar wasanaethau datganoledig.
"Mae lleihau'r gost gyffredinol sydd ynghlwm wrth les wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth San Steffan wrth leihau'r diffyg, ac mae hynny wedi arwain at newidiadau sylfaenol i'r system fudd-daliadau a goblygiadau sylweddol i'r sector dai yng Nghymru.
"Mae cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr wedi ysgogi darparwyr tai cymdeithasol i ddarparu tai sy'n ymateb yn well i'r sefyllfa gyfredol o ran budd-daliadau ac sy'n diwallu anghenion tenantiaid mewn modd mwy priodol.
"Yn y pen draw, pan fo anghydfod gwleidyddol neu'r methiant i gydweithio neu ymateb yn ddigon cyflym i newidiadau yn amharu ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu, tenantiaid cymdeithasol a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas sy'n dioddef."