BBC Cymru Fyw

Parti môr-ladron i ddathlu T Llew Jones ar y maes

Published

Mae ysbryd Barti Ddu a Twm Siôn Cati yn fyw ac yn iach ar faes yr Eisteddfod ym Meifod ddydd Gwener wrth i'r Brifwyl gynnal diwrnod o ddathliadau i gofio un o hoff awduron plant Cymru.

Parti Môr-ladron i blant ydy un o'r digwyddiadau ar Ddiwrnod T Llew Jones i nodi ei gyfraniad i lenyddiaeth, gydag eleni yn ganmlwyddiant ei eni ar 11 Hydref 1915.

image captionT Llew yn cyflwyno'r rhaglen Dilyn Afon yn 1973

Roedd T Llew Jones yn awdur poblogaidd a chynhyrchiol a ysgrifennodd dros 50 o lyfrau, 35 ohonyn nhw i blant. Roedd hefyd yn fardd cadeiriog, yn athro ac yn arbenigwr ar wyddbwyll fu'n cynrychioli Cymru yn Olympiad Gwyddbwyll y Byd.

Yn ogystal, mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw'n darlledu cyfres o raglenni i nodi'r canmlwyddiant yn ystod mis Hydref.

Amserlen digwyddiadau

Mae digwyddiadau drwy'r bore yn yr Ŵyl Llên Plant ar faes y Brifwyl, gan ddechrau gyda Gweithdy Celf Barti Ddu a Twm Siôn Cati rhwng 10:00 - 12:00, a gorffen gyda Pharti Môr-ladron Barti Ddu am 14:00.

image captionAaarrr! Bydd Ben Dant yn ymuno yn y dathliadau ar faes yr Eisteddfod

Rhwng 11:30 a 15:30 yn Theatr y Maes mae Arad Goch yn cyflwyno Lleuad yn Olau, addasiad o gyfrol o straeon T Llew Jones i blant a gafodd ei hailgyhoeddi'r llynedd.

Ac ar Lwyfan y Maes am 14:00 bydd Sioe Cyw yn cyflwyno Ben Dant vs Twm Siôn Cati.

Fe fydd cyflwyniadau yn y Babell Lên yn y p'nawn hefyd: am 12:45 fe fydd Idris Reynolds yn cyflwyno 'Y Fro Eithinog', cyfrol o gerddi T Llew, a bydd Mererid Hopwood yn trafod ei waith fel bardd am 13.30 mewn sesiwn o'r enw "Fuoch chi yng Nghwm Alltcafan?"

Mae mab T Llew Jones, Emyr Llewelyn, yn ymuno gyda Siwan Rosser a Myrddin ap Dafydd mewn trafodaeth yn y Lolfa Lên am 12:00.

image captionT Llew Jones yn cipio ei Gadair gyntaf yn Eisteddfod Glynebwy 1958

Pam dydd Gwener?

Dewiswyd dydd Gwener gan yr Eisteddfod am mai dyma ddiwrnod y cadeirio, ac fe enillodd T Llew y Gadair ddwywaith: yng Nglynebwy yn 1958 ac yng Nghaernarfon y flwyddyn ganlynol, yn 1959.

Oherwydd hynny mae'r ŵyl wedi trefnu bod dwy artist yn ymweld ag ysgolion yn y ddwy dref.

Aeth Bethan Clwyd i ysgol yng Nglyn Ebwy i greu ac addurno cadeiriau o ddeunyddiau ailgylchu, tra bu'r artist Luned Rhys Parri yn gweithio gydag ysgol yng Nghaernarfon i greu murlun wedi ei seilio ar gymeriadau o straeon a cherddi T Llew Jones.

Yn ogystal â'r digwyddiadau ar y maes ddydd Gwener, mae S4C hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n darlledu cyfres o raglenni i ddathlu bywyd a gwaith T Llew Jones ym mis Hydref i nodi'r canmlwyddiant.

Ymhlith y rhaglenni bydd Beti George, un ag oedd â chysylltiad personol â T Llew Jones, yn cyflwyno portread o'r llenor, yn cyflwyno'r dyn y tu ôl i'r wyneb cyhoeddus. Hefyd, bydd addasiad ffilm o'r nofel Tân ar y Comin yn cael ei ddarlledu.

image captionT Llew (chwith) mewn sesiwn farddoni yn Yr Hendre, 1966, gyda Dic Jones, Dafydd Jones ac eraill

Dylanwad

Trwy gysylltiadau teuluol ei wraig, Margaret Jones, a oedd yn perthyn i deulu enwog y Cilie daeth T Llew dan ddylanwad beirdd fel Isfoel ac Alun Cilie.

Roedd yn gyfrannydd cyson i raglenni teledu a radio Cymraeg ac yn 1973 fe gyflwynodd raglen Dilyn Afon i'r BBC, oedd yn dilyn taith Afon Clettwr o'i tharddiad yn Nhalgarreg hyd at Afon Teifi.

image captionT Llew yn cwrdd â gof oedd yn byw ar lannau afon Clettwr yn rhaglen Dilyn Afon 1973

Gwyddbwyll

Fe ysgrifennodd T Llew y llawlyfr gwyddbwyll Cymraeg cyntaf gyda'i fab Iolo Ceredig Jones, sy'n gyn-chwaraewr gwyddbwyll proffesiynol.

Bu'n cystadlu gyda'i fab dros Gymru yn yr Olympiad Gwyddbwyll a daeth yn Is-Lywydd Undeb Gwyddbwyll Cymru.

image captionMae digwyddiadau drwy'r bore yng Ngŵyl Llên Plant yr Eisteddfod ddydd Gwener

Ond mae'n cael ei gofio'n bennaf am iddo ddal dychymyg cenedlaethau o blant gyda'i straeon am gymeriadau cyffrous fel Twm Siôn Cati a Barti Ddu a llu o nofelau eraill oedd wedi'u seilio'n aml ar hanes a chwedlau lleol fel Tân ar y Comin, Corn, Pistol a Chwip, Dirgelwch yr Ogof a Trysor y Môr-ladron.

Enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith a gwobr Mary Vaughan Jones yn 1991 am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant dros y blynyddoedd.

Gallwch ddilyn digwyddiadau i nodi canmlwyddiant ei eni ar Hydref 11 1915 ar gyfrif Twitter @100TLlew.