Arddangos cynlluniau i greu fferm solar ger Chwilog

  • Cyhoeddwyd
arddangosfa
Disgrifiad o’r llun,
Rhai o'r bobl a ddaeth i'r arddangosfa yn neuadd bentref Chwilog nos Lun

Mae pobl ardal Chwilog ger Pwllheli wedi cael cyfle i weld arddangosfa gan gwmni ynni, sy'n bwriadu adeiladu fferm solar ym Mhen Llŷn.

Mae cwmni Lightsource Renewable yn bwriadu cyflwyno cais i osod paneli haul ar 16 acer o dir ar fferm Tyddyn Gwyn yn Llanarmon, a fyddai'n cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 1,000 o gartrefi.

Os bydd y cwmni yn cael caniatad cynllunio mi fydd y paneli wedi eu gosod ar y safle o fewn chwe mis.

Lightsource Renewable Energy ydi'r cwmni mwyaf ym Mhrydain o ran cynhyrchu ynni o'r haul.

Os bydd eu cais yn llwyddiannus, mi fydd y safle ger Llanarmon yn cynhyrchu 3.8 megwatt o drydan fydd yn cael ei fwydo i'r grid cenedlaethol.

Mae'r safle dan sylw yn eithaf cuddiedig, ac roedd y cwmni wedi anfon llythyrau at tua 300 o drigolion lleol i roi gwybodaeth am y cynllu arfaethedig ac i son am yr arddangosfa yn Chwilog, ond dim ond rhyw 12 o bobl ddaeth i weld y cynlluniau a doedd hi ddim yn ymddangos fod yna wrthwynebiad mawr i'r datblygiad.

Mae'r cwmni yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio yn ystod y mis nesaf, ac mae nhw'n gobeithio cael caniatad i fwrw ymlaen o fewn tri mis.

Mae'n bosib felly y bydd paneli ar dir Tyddyn Gwyn yn cynhyrchu trydan i'r grid cenedlaethol cyn diwedd y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,
Daeth tua 12 o bobl i'r arddangosfa yn neuadd bentref Chwilog nos Lun