Ymgynghori ar ddyfodol cartrefi gofal yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad o wasanaethau cymdeithasol y cyngor wedi ei gynnal
Bydd ymgynghoriad yn dechrau ar ddyfodol tri chartref gofal sy'n cael eu rheoli gan gyngor a gwasanaethau gofal mewnol eraill yn y sir.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn awyddus i ymchwilio i'r posibilrwydd o drosglwyddo'r gwaith o redeg y cartrefi i ddarparwr allanol i geisio arbed bron i £700,000.
Y llynedd, fe wadodd yr awdurdod adroddiadau eu bod yn bwriadu cau neu werthu unrhyw un o'u cartrefi gofal preswyl neu ganolfannau dydd.
Ond dywedodd y cyngor bod adolygiad o wasanaethau gofal cymdeithasol mewnol wedi ei gynnal.