Ceredigion: Penderfynu ailwampio cartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
cyngor ceredigion
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cyngor Ceredigion, fel sawl awdurdod lleol ar draws Cymru, yn rhagweld y bydd ar lawer mwy o bobl hŷn angen cymorth yn y dyfodol

Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi pleidleisio yn unfrydol i ailwampio eu cartrefi gofal preswyl, mewn ymgais i leihau costau a mynd i'r afael â'r broblem o welyau gwag.

Fe fydd y gwaith o reoli a datblygu un o'r cartrefi, Bodlondeb yn Aberystwyth yn cael ei gynnig i barti allanol, gyda'r gobaith o greu cartref sy'n gallu gofalu am gleifion dementia.

Yn ôl cofnodion y cyngor, mae dau gwmni preifat eisoes wedi dangos diddordeb mewn cymryd drosodd y cartref. Ond mae rhai cynghorwyr yn anhapus gyda'r cynnig hwn, gan ddweud bod y trigolion yno yn hapus fel ag y maen nhw.

Cytunodd y cabinet i ystyried ailddatblygu tri chartref arall i fod yn 'ganolfannau' preswyl i'r oedrannus - yn Aberteifi, Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan.

Fe fydd menter ar y cyd gyda bwrdd iechyd Hywel Dda yn ceisio ailagor cartref Awel Deg yn Llandysul fel canolfan iechyd meddwl integredig, er mwyn mynd i'r afael â'r angen am ofal dementia ychwanegol. Mae cynlluniau eisoes ar droed yn Nhregaron i ddatblygu canolfan iechyd integredig, sy'n cynnwys gofal yr henoed.

Fe fydd cartref Tregerddan yn Bow Street yng ngogledd y sir yn parhau fel ag y mae ar hyn o bryd.