Llys: Dwyn o siop a gwerthu ar Ebay
- Cyhoeddwyd

Mae cyn weithiwr diogelwch yn Debenhams a'i wraig wedi bod yn y llys ar gyhuddiad o ddwyn eitemau o'r siop cyn eu gwerthu ar y we.
Fe glywodd Llys y Goron Abertawe fod Gareth Richards, 36 oed o'r Glais, Abertawe, wedi pledio'n euog i ddwyn gwerth miloedd o nwyddau moethus o'r siop, gan gynnwys oriorau drudfawr, sbectolau haul, bagiau llaw a dillad, a bod ei wraig, Mari wedi eu gwerthu ar wefan Ebay, gan wneud elw o £23,000.
Dywedodd yr erlynydd Janet Gedrych fod swyddogion y siop wedi ceisio dal Richards wedi i aelod o'r cyhoedd godi pryderon am oriawr yr oedd hi wedi prynu ar Ebay. Roedd sticer siop Debenhams yn dal i fod ar yr oriawr a sylwodd staff fod yr oriawr wedi cael ei gwerthu gan gyfrif o'r enw Mari48888 (gwraig Richards).
Cafodd Richards ei weld yn tynnu gemwaith o gwpwrdd diogelwch heb ei ddychwelyd. Fe ymddangosodd yr oriawr ar gyfrif Ebay (Mari48888) yn fuan wedyn ac fe brynodd un o reolwyr y siop yr oriawr gan ddefnyddio manylion ffug.
Diswyddo
Fe gafodd Richards ei ddiswyddo ac fe gyfaddefodd i'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae ei wraig wedi gwadu'r cyhuddiad o werthu 54,500 o eitemau wedi eu dwyn ar y we ac wedi dweud fod gan ei gŵr fynediad i'w chyfrif ac mai "ef oedd yn gyfrifol am hyn."
Yn ôl yr erlyniad, roedd hi wedi defnyddio'r arian wedi iddi werthu'r eitemau er mwyn mynd ar deithiau spa i Gaerfaddon, noson yng ngwesty'r Ritz yn Mayfair a sbri siopa yn Harrods.
Mae'r achos yn parhau.