Pontio: Llwyfannu 'Chwalfa' yn 2016

  • Cyhoeddwyd
Pontio

Wedi i'r cynhyrchiad gael ei ohirio oherwydd oedi yn y gwaith o adeiladu Canolfan Pontio ym Mangor, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y bydd drama Chwalfa'n cael ei llwyfannu yno yn y flwyddyn newydd.

Bydd y ddrama yn cael ei llwyfannu o 17 Chwefror i 27 Chwefror 2016, a'r ymarferion yn dechrau yn yr hydref.

Bydd Chwalfa, addasiad o nofel T Rowland Hughes gan Gareth Miles, yn cael ei chyfarwyddo gan Arwel Gruffydd.

Dywedodd Mr Gruffydd ei fod yn "hynod gyffrous" bod y cynhyrchiad yn cael "gweld golau dydd" o'r diwedd.

Oedi

Daeth i'r amlwg ym mis Hydref y llynedd na fyddai'r cynhyrchiad yn mynd yn ei flaen yn 2015.

Fe wnaeth Prifysgol Bangor gyhoeddi na fyddai Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio yn agor mewn pryd - gan olygu bod holl gynyrchiadau'r ganolfan wedi eu canslo, eu symud neu eu gohirio.

Roedd disgwyl i'r ganolfan agor ym mis Chwefror 2015, ond wedi oedi pellach, dywedodd y brifysgol y byddai Pontio yn agor yn yr hydref, dros flwyddyn yn hwyrach na'r disgwyl.

Wrth gyhoeddi'r newyddion am Chwalfa, dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru a Chyfarwyddwr Chwalfa, Arwel Gruffydd: "Mae'n hynod gyffrous ein bod ni heddiw yn gallu cyhoeddi y byddwn ni'n llwyfannu Chwalfa flwyddyn nesaf.

"Mae'n bleser gennym allu cadarnhau y bydd ffrwyth llafur pawb fu'n gweithio mor galed ar y cynhyrchiad yma llynedd, yn cael gweld golau dydd yn y Flwyddyn Newydd.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb yn ôl i ail-afael yn y gwaith ac i gael llwyfannu'r stori eithriadol hon sydd mor berthnasol i'r ardal, ac yn bennod mor bwysig yn ein hanes fel cenedl."