Saethu Abercynon: Arestio ail ddyn
- Cyhoeddwyd

Mae ail ddyn o Aberpennar wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad lle cafodd dyn ei saethu ar ochr ffordd ger Abercynon yn Rhondda Cynon Taf nos Sul.
Fe gafodd yr ail ddyn, sy'n 46 oed, ei arestio nos Fawrth ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae'r heddlu hefyd wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dyn 46 oed arall, gafodd ei arestio ddydd Llun mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101, neu drwy ffonio Taclo'r Tacle, ar 0800 555111, a nodi'r cyfeirnod 1500271720.