'Angen cefnogi' merched busnes

  • Cyhoeddwyd
Ann Beynon
Disgrifiad o’r llun,
Mae Ann Beynon wedi gweithio gyda BT yng Nghymru ers 17 o flynyddoedd

Fe ddywed cyfarwyddwr BT yng Nghymru na ddylid diystyru cwotâu i'r nifer o ferched ar fyrddau rheoli cwmnïau.

Ond ychwanegodd Ann Beynon ei bod yn credu bod mesurau eraill yr un mor bwysig, a bod angen cefnogaeth i ferched i ddatblygu'u gyrfaoedd.

Roedd Ms Beynon yn siarad gyda BBC Cymru wrth iddi adael ei swydd gyda BT wedi 17 o flynyddoedd.

Er gwaetha' sibrydion y byddai'n sefyll yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf, fe ddywedodd hefyd nad oes ganddi fwriad ar hyn o bryd i symud i fyd gwleidyddiaeth.

Nenfwd gwydr

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae bron 24% o swyddi ar fyrddau prif gwmnïau Prydain wedi eu llenwi gan ferched - cynnydd o 12.5% yn 2011.

Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth i orfodi cwmnïau i gael o leia' 40% o'u byrddau yn ferched.

Dywedodd Ann Beynon, sydd hefyd yn Gomisiynydd Cydraddoldeb Cymru: "Mae 'nenfwd gwydr' yna yn bendant, ac felly mae'n rhaid i bob dynes - a bob dyn ddudwn i - gefnogi merched i ddatblygu'u gyrfaoedd.

"Pan mae pob dynes yn cyrraedd oedran magu teulu, nhw sy'n gorfod cario'r baich ac mae hynny'n effeithio ar eu gallu nhw i ddatblygu'u gyrfa, ac ar faint o gyflog maen nhw'n ennill."

Ychwanegodd y gallai cwotâu fod yn "rym negyddol" wrth fynd i'r afael â'r mater, a bod angen ystod eang o fesurau eraill. Er hynny dywedodd fod y sefyllfa'n gwella.

Flwyddyn yn ôl roedd yn rhan o lansio ymgyrch i geisio sicrhau cynrychiolaeth gyfartal ym mywyd cyhoeddus Cymru erbyn 2020, gyda'r nod o gael cynrychiolaeth 50/50 i ferched ar fyrddau rheoli cyrff cyhoeddus.

Gwadu sibrydion

Pan gyhoeddodd Ms Beynon y byddai'n gadael BT yn gynharach eleni, fe ddaeth sibrydion y gallai sefyll yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Ond yn ei chyfweliad gyda BBC Cymru, fe wadodd hynny gan ddweud:

"Mae gen i ŵr sy'n wleidydd (Gweinidog Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, Leighton Andrews), ac mae un gwleidydd yn y teulu'n ddigon - fydde'n well gen i aros ar yr ochr fusnes i bethau.

"Chi byth yn gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol, ond ar hyn o bryd does dim bwriad gen i sefyll o gwbl."