Buddugoliaeth wych i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae Morgannwg wedi curo Caint o dair wiced yn eu gêm yng Nghwpan Undydd Royal London.
Gydag wyth pelawd yn weddill roedd hi'n edrych ar ben ar Forgannwg yn eu gêm yn y Cwpan Undydd yn erbyn Caint nos Fawrth.
Roedd Caint wedi cael eu gwahodd i fatio gynta' gan gapten Morgannwg, ac wedi sgorio 317 o'u 50 pelawd - nod teilwng iawn.
Roedd y targed yn ymddangos yn well fyth wrth i wicedi Morgannwg ddisgyn yn gyson, gan eu gadael angen sgorio 105 o'r wyth pelawd olaf.
Ond yna daeth Chris Cooke i'r adwy gan daro'r ffin drosodd a thro.
Gyda dwy belen yn weddill fe darodd Cooke y bêl i'r ffin am 4 arall i sicrhau buddugoliaeth i Forgannwg o dair wiced.
Cwpan Undydd Royal London:
Caint - 317 am 7 (50 pelawd)
Morgannwg - 321 am 7 (49.4 pelawd)