Hawl cais am iawndal gam yn nes

  • Cyhoeddwyd
Gwaith golosg
Disgrifiad o’r llun,
Dyddio'n ôl i'r pumdegau mae rhai o'r achosion

Mae penderfyniad Uchel Lys yn Llundain yn golygu bod hawl cannoedd o weithwyr, gan gynnwys rhai o dde Cymru a'r gogledd, i wneud cais am iawndal gam yn nes.

Dyddio'n ôl i'r pumdegau mae rhai o'r achosion pan oedd gweithfeydd golosg yn puro glo ar gyfer y diwydiant dur.

Mae mwy na 350 o weithwyr o'r de a'r gogledd, De Sir Efrog a Gogledd Sir Derby yn honni bod y gwaith wedi achosi trafferthion iechyd difrifol.

Yn ei anterth roedd 13 o weithfeydd yng Nghymru, y rhan fwya yn y de ac un yn Shotton yn Sir y Fflint.

Y nod yw dwyn achos yn erbyn Llywodraeth y DG, Coal Products a National Smokeless Fuels.

Canser

Mae cais arall am iawndal ar ran rhai oedd yn gweithio yng ngweithfeydd golosg Dur Prydain.

Clywodd yr Uchel Lys fod gweithwyr wedi diodde asthma, canser yr ysgyfaint a chanser y croen.

Bydd rhaid i farnwr benderfynu ai achosion eu clefydau oedd yr hyn ddigwyddodd yn y gweithle neu smygu sigaréts ac a gymerodd y cyflogwyr ofal wrth geisio lleihau unrhyw risg.

Y cam nesa fydd penodi barnwr i glywed yr hawliau iawndal a bydd gwrandawiad ym mis Tachwedd.