Dwyn aur: Arestio naw wedi cyrchoedd
- Published
Mae'r heddlu wedi arestio naw o bobl yng ngogledd Cymru fel rhan o ymchwiliad i achosion o ddwyn gemwaith aur.
Fe wnaeth yr heddlu gynnal nifer o gyrchoedd yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Caer yn dilyn cyfres o achosion o ddwyn aur Asiaidd dros y misoedd diwethaf.
Roedd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Sir Caer yn rhan o'r cyrchoedd, ac maen nhw'n dweud bod cymunedau eraill hefyd wedi'u targedu.
Cafodd 18 o dai eu chwilio.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladradau gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101.