Amddiffynnwr Cymru, James Chester yn ymuno â West Brom

  • Cyhoeddwyd
James Chester
Disgrifiad o’r llun,
Mae James Chester wedi bod yn rhan bwysig o garfan Cymru yn ystod gemau rhagbrofol Euro 2016

Mae amddiffynnwr Cymru, James Chester, wedi arwyddo cytundeb gyda West Bromwich Albion.

Bydd West Brom yn talu £8m i Hull am Chester, sydd wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd o hyd.

Chwaraeodd yr amddiffynnwr, 26, 156 o gemau i Hull, wnaeth ddisgyn allan o'r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor.

Dywedodd rheolwr West Brom, Tony Pulis: "Fe wnaeth James yn dda iawn gyda Hull. Dwi wedi cael sgwrs dda gydag o, ac mae o'r math o chwaraewr rydw i'n hoffi."

Mae Chester wedi bod yn aelod pwysig o dîm Cymru yn gemau rhagbrofol Euro 2016.