Acen Gymreig: Dedfrydau gohiriedig
- Cyhoeddwyd

Mae dau blismon wedi cael dedfryd ohiriedig wedi ymosodiad ar ddyn roedden nhw'n ei amau oherwydd ei acen Gymreig.
Ar 18 Awst y llynedd roedd y Cwnstabliaid David Littlemore, 35 oed, a John Richardson, 50 oed, yn chwilio am ddyn ar goll yn Peterborough pan gwrddon nhw â John Morgan, 59 oed.
Clywodd Llys Ynadon Luton nad fe oedd y dyn roedden nhw'n chwilio amdano ond gwrthododd Mr Morgan roi ei enw a'i gyfeiriad.
Roedd y plismyn yn amau ei fod yn ffugio'i acen Gymreig.
Clywodd y llys iddo gael ei lusgo i'r llawr a bod ei law wedi ei hanafu sawl gwaith.
'Gormod o rym'
Penderfynodd y llys fod y ddau blismon wedi defnyddio "gormod o rym".
Roedd y ddau wedi gwadu'r cyhuddiadau ond cafodd y ddau ddedfryd o dri mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd.
Bydd rhaid i Richardson wneud 200 o oriau o waith cymunedol tra bod Littlemore yn gorfod gwneud 150 o oriau.
Cafodd y ddau orchymyn i dalu £500 o gostau a £450 o iawndal.
Mae'r ddau'n wynebu gwrandawiadau disgyblu.