Diffoddwyr yn ymladd tân mewn parc carafanau dros nos
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gwasanaeth Tân wedi bod ar safle parc carafanau yng Ngheredigion lle mae tân mawr wedi bod yn llosgi dros nos.
Cafodd wyth injan a 40 o ddiffoddwyr eu galw i Barc Carafanau Sea Rivers yn Ynyslas ger Aberystwyth.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân eu bod wedi eu galw am tua 02:20 fore Iau.
Roedd y tân mewn adeilad mawr lle roedd peirannau yn cael eu cadw. Nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi ei anafu.