Ymfudwyr Calais: 'Angen gwersylloedd' medd AS Mynwy

AS Mynwy David Davies
Image caption AS Mynwy David Davies: 'Mae gyda ni hawl i reoli'n ffiniau'

Mae AS Mynwy, y Ceidwadwr David Davies, wedi galw ar Lywodraeth y DU i helpu codi gwersylloedd i ffoaduriaid yng ngogledd Affrica.

Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru dywedodd fod angen anfon ymfudwyr yn ôl mewn modd dyngarol, ac y dylid cyfyngu ar y budd-daliadau sydd ar gael iddyn nhw yn y DU.

Ar raglen Today ar BBC Radio 4 gofynnwyd iddo ynghylch yr awgrym y dylid anfon lluoedd arfog i Calais.

Dywedodd mai mesur dros dro fyddai hynny pe bai'r awdurdodau yn Ffrainc yn fodlon cydweithio, a hynny gan nad oedd digon o bobl yn Calais i ddelio â'r holl ymfudwyr sydd eisiau dod i Brydain.

Image copyright AFP/getty images

Ychwanegodd fod angen torri budd-daliadau er mwyn cael gwared â'r ysgogiad i deithio i'r DU, ac y dylid anfon pobl heb y papurau angenrheidiol nôl i 'wersylloedd dyngarol' yn Affrica a'r Dwyrain Canol.

Dywedodd mai hynny fyddai'r peth gorau i'r ymfudwyr yn ogystal â Phrydain oherwydd bod nifer yn peryglu eu bywydau wrth deithio.

"Mae gyda ni hawl i reoli'n ffiniau a phenderfynu pwy sy'n dod yma, ac rydyn ni'n colli rheolaeth ar hynny ar hyn o bryd."

£100,000

Yn y cyfamser, mae cwmni cludo o Gymru wedi honni eu bod yn colli £100,000 y mis oherwydd oedi yn Calais.

Dywedodd Glyn Meredith, Pennaeth Gweithrediadau Ewrop MCL Logistics yng Nghasnewydd, fod y gwaith ar y cyfandir yn cyfateb i 33% o drosiant y cwmni.

"Ar hyn o bryd mae tri gyrrwr yn sownd mewn tagfeydd cyn croesi'r sianel," meddai.

"Rydyn ni'n colli llawer, amser cynhyrchu, cyfarfodydd, dyw'r nwyddau ddim yn cyrraedd ein cwsmeriaid ..."

Straeon perthnasol