Saith Diwrnod

Pafiliwn yr Eisteddfod
Image caption Wrth i bobl edrych ymlaen at Eisteddfod Meifod, mae Bethan Williams yn adlewyrchu ar ei phrofiadau yng Ngŵyl Fawr Aberteifi

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.

Yr wythnos nesaf bydd pobl yn tyrru i'r Eisteddfod Genedlaethol, a hynny am resymau gwahanol iawn i'w gilydd. Wrth fwynhau cymdeithasu a chystadlu, tybed sawl un ohonon ni sy'n ymwybodol o'r gwaith caled sy'n cael ei wneud gan gannoedd o bobl i helpu i'r sioe redeg yn llyfn?

Ar wefan Ffrwti, mae Bethan Williams yn sôn am ei phrofiad yn cyfeilio gyda'i thelyn yng Ngŵyl Fawr Aberteifi.

Er mai'r peth ar flaen ei meddwl hi oedd i dant dorri lai nag awr cyn seremoni'r cadeirio ac na fyddai'r tant newydd yn dal mewn tiwn drwy'r holl seremoni, yn ôl Bethan, byddai'n hollol ddibwys i bawb arall wybod hynny.

Does neb yn diolch i'r stiwardiaid, na'r dynion sain, na'r fenyw osododd y blodau, neu'r tiwniwr piano. Ond y stiwardiaid wnaeth ei helpu hi i symud y delyn a'r dynion sain oedd yn gwneud yn siŵr fod popeth yn ei le.

Fel y dywed Bethan, falle taw cogs bach yn y mecanwaith ydyn ni, ond ni'n eitha' allweddol - yn ein ffordd ein hunain.

Image copyright Thinkstock
Image caption Cusanu neu beidio?

Sut fyddwch chi'n cyfarch hen ffrindiau a chydnabod ar faes y Brifwyl? Cusanwraig yw'r Saesnes yng Nghymru.

Dim byd dros ben llestri, mae'n ein sicrhau ni ar ei blog - dyw hi ddim yn glafoerio dros bawb - ond cwtsh bach a chusan ar eu boch i weud 'Croeso', 'pob hwyl', 'diolch'… Dyma'r ffordd y cafodd ei magu.

Pan fydd pobl yn galw, mae hi'n teimlo'n lletchwith yn hongian o amgylch y drws wrth ffarwelio. Os nad dych chi'n rhoi cwtsh, beth y'ch chi fod neud? Chwifio yng ngwyneb eich ymwelwr?

Ond ar ôl priodi Cymro, mae cofleidio aelodau o'i theulu Cymreig yn teimlo ychydig bach fel rhoi cwtsh i'r bwrdd smwddio.

Oes, meddai, mae 'na god anysgrifenedig am sut i fihafio - ac mae'n ddigon anodd ei ddysgu. Ac mae hyn cyn dechrau trafod pryd i ddefnyddio ti a chi…

Ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty gyda'i thrafferthion â'i chlun newydd, mae gan Bethan Gwanas yn yr Herald gynnig.

Dwi wir yn meddwl, dywed, y dylai pob disgybl ysgol dreulio amser yn gweithio neu wirfoddoli mewn ysbyty cyn gadael yr ysgol.

Nid gwaith y tu ôl i ddesg, ond y gwaith caib a rhaw, y gwaith o ofalu am gleifion.

Yn ôl Bethan, byddai hwn yn gyfle iddyn nhw ddysgu cymaint: am bobl, o blant bach i'r henoed; dysgu be ydi gwaith caled go iawn; dysgu pa mor lwcus ydyn nhw ac nad oes gynnyn nhw reswm i gwyno cymaint am eu byd.

Image copyright Cylchgrawn Barn

Mae Dafydd Fôn Williams yn un o blant y Gwasanaeth Iechyd. Yn Barn dywed mai gwarchodaeth y Gwasanaeth sy'n bennaf cyfrifol mai ei genhedlaeth yw'r gyntaf i oroesi peryglon plentyndod bron yn ei chrynswth, y gyntaf lle mae'r mwyafrif yn cyrraedd canol oed diweddar yn weddol iach ac, yr un mor bwysig, y gyntaf i beidio bod angen dannedd gosod.

Er bod gwyddoniaeth wedi cymryd camau breision dros yr hanner can mlynedd diwethaf, y Gwasanaeth sydd wedi sicrhau bod y prif ddatblygiadau ar gael i'r holl boblogaeth, ac nid i'r ychydig ffodusion cyfoethog yn unig.

Poeni mae Dafydd am yr holl feirniadu ar wahanol agweddau o'r Gwasanaeth, sy'n digwydd oherwydd ei lwyddiant fel gwasanaeth a hefyd natur yr oes, yn nheyrnas Iechyd a Diogelwch a diwylliant yr iawndal, lle mae popeth yn fai ar rywun, gan gynnwys marwolaeth naturiol.

Gobaith Dafydd yw na fyddwn yn dychwelyd i gyfnod yr hen bennill poblogaidd o Fôn:

Doctor Doctor Doctor,

Mae gen i boen yn f'ochr,

Ond gwell gen i ollwng pwmp o rech

Na thalu chwech i'r doctor.

Gwrandewch ar adolygiad Catrin Bird ar wefan BBC Radio Cymru