Neil ap Siencyn wedi marw
- Cyhoeddwyd

Yn 78 oed, bu farw Neil ap Siencyn ar 27 Gorffennaf.
Fe ymgartrefodd yn Sycharth, Talgarreg, cyn symud i Landysul.
Yn genedlaetholwr brwd a dadleuol ar brydiau, roedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y dyddiau cynnar cyn mynd ati i sefydlu mudiad Adfer yn yr 1970au.
Roedd Adfer yn credu mewn gwarchod "Y Fro Gymraeg" - ardal gyda'r mwyafrif o'i thrigolion yn siarad Cymraeg.
Bu'n gyfarwyddwr ar Ŵyl Werin y Cnapan yn Ffostrasol.
'Bendith arno'
Roedd y darlledwr, Lyn Ebenezer yn gyfaill iddo, a bu'n rhannu atgof amdano gyda Cymru Fyw:
"Y darlun o Neil Ap Siencyn a fydd yn aros yn y cof yw hwnnw ar fwrdd y llong fferi i Iwerddon.
"Ar ein ffordd i ddathliadau hanner canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg bron hanner canrif yn ôl oedden ni a Neil mewn siwmper Arran wen. Ffasiynol iawn, diolch i'r Brodyr Clancy.
"Yfasom yn drwm o wlith du Arthur Guinness ac erbyn i ni gyrraedd Ros Láir roeddem dan ddylanwad.
"Erbyn hyn roedd patrwm wedi ymddangos ar y siwmper. O ymylon mwstash Neil lawr hyd waelod y siwmper gwelid dwy linell ddu gyfochrog unionsyth.
"Do, trodd siwmper wen Neil yn batrymog ddu a gwyn. Union liw cwrw Mr. Guinness ei hun.
"Bendith arno."
Bydd angladd Neil ap Siencyn yn cael ei chynnal ddydd Gwener, 31 Gorffennaf yn Aberystwyth.
Mae'n gadael tri o blant, Gwydion, Lleucu ac Esyllt.