Nigel Farage: 'Gall Ukip wneud yn dda yn etholiad y Cynulliad'
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Ukip wedi dweud mai targed Ukip yw ffurfio'r wrthblaid swyddogol yn y Cynulliad wedi'r etholiad ym mis Mai 2016.
Yn ôl Nigel Farage, mae'r blaid yn "gryf iawn iawn" yng Nghymru, a phe bai refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei gynnal tua'r un adeg ac etholiad y Cynulliad, gallai Ukip wneud yn neud yn dda iawn.
Wrth siarad ar Good Morning Wales ar Radio Wales, dywedodd: "Dwi'n meddwl ei bod hi'n bosib y gallen ni ffurfio'r wrthblaid swyddogol, dyna fyddai'r uchelgais, y targed, fydd e ddim yn hawdd, ond mae'n bosib."
Roedd Mr Farage yn bendant na fyddai fe yn ymgeisydd ei hun: "Mae gen i ddigon ar fy mhlât eisoes diolch".
Yn yr etholiad cyffredinol, sicrhaodd Ukip 14% o'r bleidlais yng Nghymru, cynnydd o 11% ers etholiad cyffredinol 2010.
Does dim un AC Ukip erioed wedi ei ethol, ond mae nifer o sylwebwyr wedi awgrymu y gallai hynny newid yn 2016.