Pobol y Cwm: Pennod nos Fercher yn dychwelyd

  • Cyhoeddwyd
Pobol y Cwm

Bydd pum rhifyn nosweithiol o opera sebon Pobol y Cwm yn cael eu darlledu bob wythnos, medd S4C.

Mae'r sianel yn dweud bod BBC Cymru wedi cynnig cynhyrchu'r rhifyn, fydd yn cael ei ddarlledu ar nos Fercher.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys, bod y cyhoeddiad yn "newyddion da iawn i gynulleidfa'r sianel".

'Gwerth am arian'

Ym mis Mawrth 2014 fe wnaeth S4C a'r BBC gyhoeddi y byddai llai o rifynnau o'r gyfres yn cael eu darlledu yn wythnosol, fel rhan o gynllun i arbed arian.

Fe wnaeth y darlledwyr benderfynu cael gwared ar y rhifyn omnibws oedd yn cael ei ddarlledu dros y penwythnos, yn ogystal ag un o'r pum rhifyn nosweithiol.

BBC Cymru sy'n cynhyrchu'r rhaglen ar gyfer S4C, gyda'r sianel yn cyfrannu tuag at gostau cynhyrchu'r gyfres. S4C fydd yn ariannu'r bennod ychwanegol.

Nid yw union amseriad y newid wedi ei gadarnhau eto, ond mae disgwyl y bydd yn dod i rym cyn diwedd y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Pobol y Cwm ddathlu 40 mlynedd ar y sgrin y llynedd

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys: "Yn naturiol, roedden ni'n siomedig o orfod colli un o benodau canol wythnos y ddrama wrth ddod â'r Omnibws i ben y llynedd, ond rydym wrth ein boddau y bydd modd i'r gyfres ddychwelyd i bum pennod yr wythnos.

"Fe fydd hyn yn cynnig gwerth am arian da i ni yn S4C a bydd yn golygu ein bod yn medru mynd yn ôl i gynnig drama sebon yn nosweithiol ar y sianel."

Ychwanegodd Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Sian Gwynedd: "Mae hwn yn newyddion gwych i'r cynhyrchiad ond yn bennaf oll i wylwyr. Mae yna waith caled wedi ei wneud i gryfhau'r gyfres a byddwn yn parhau gyda'r gwaith yna wrth baratoi ar gyfer y bumed bennod.

"Fe welson ni yn ystod y dathliadau pen-blwydd y llynedd beth mae'r gyfres yn ei olygu i wylwyr dros Gymru gyfan. Fel cam nesaf byddwn nawr yn trafod gyda'r undebau talent."