Golwg ar y Gymraeg yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Mae hi'n 12 mis ers cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin. Yn ôl rhai, roedd y Brifwyl yn Llanelli yn ddigwyddiad allweddol i dynnu sylw at ddyfodol y Gymraeg yn y Sir.
Yn ôl cyfrifiad 2011, fe welwyd gostyngiad o dros 6% yn nifer y siaradwyr Cymraeg - y gostyngiad mwyaf o ran canran trwy Gymru gyfan. Aled Scourfield sy'n pwyso a mesur yr ymdrechion i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd canlyniadau'r cyfrifiad yn ysgytwad i garedigion y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin.
Mewn un gymuned, Rhydaman, fe welwyd cwymp o 12% yn y nifer o siaradwyr Cymraeg. Ar draws y Sir, roedd yna ostyngiad o 6% yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, ac am y tro cyntaf mae llai na 50% yn medru'r iaith.
Er y cwymp, mae dros 80,000 yn siarad Cymraeg yn Sir Gâr - mwy nac unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru.
Penderfynodd Cyngor Sir Gaerfyrddin i sefydlu gweithgor i bwyso a mesur sefyllfa'r Gymraeg, ac i feddwl am ffyrdd i'w chryfhau.
Fe luniwyd dros 70 o argymhellion, yn craffu ar 8 o feysydd penodol: Addysg, Cynllunio, Iaith ac Economi, Y Gweithle, Cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, Trosglwyddiad Iaith yn y Teulu a ffyrdd o farchnata'r Gymraeg. Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan y cyngor sir yn ei gyfanrwydd.
Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Llanelli, Gethin Thomas, mae yna newid amlwg wedi bod yn agwedd y cyngor sir tuag at y Gymraeg:
"Dwi'n gweld e fel pennaeth ysgol ac wrth fynd i gyfarfodydd... mae yna bwyslais yn cael ei roi ar y Gymraeg... dwi'n gweld penodiadau sydd wedi digwydd.. mae pobl sydd yn arwain nawr yn ddwyieithog."
Llygad barcud
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi addo cadw llygad barcud ar sut mae'r cyngor sir yn gweithredu argymhellion y Gweithgor ar y Gymraeg. Er yn croesawu'r rhaglen waith, mae'r Gymdeithas wedi mynegi siom yn ddiweddar bod hysbyseb ar gyfer swydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol yn ei barn nhw yn gofyn am lefel is o Gymraeg na'r Saesneg.
Yn ôl Sioned Elin o'r Gymdeithas: "Ni'n meddwl bod yna bethau cadarnhaol wedi digwydd... 'da ni'n disgwyl diweddariad o'r amserlen weithredu ac mi fyddwn ni yn edrych yn fanwl ar hwnnw..
"Ni yn pryderu bod yna ddim arweiniad yn dod o'r top a bod hyn wedi ei amlygu gan hysbysebion ar gyfer dwy swydd Cyfarwyddwr o fewn y Cyngor Sir.. mi fyddwn ni yn cadw golwg barcud ar y sefyllfa.."
Mae arweinydd newydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Emlyn Dole o Blaid Cymru yn dweud bod y "Gymraeg yn flaenoriaeth amlwg i fi".
Wrth ymateb i'r feirniadaeth gan Gymdeithas yr Iaith am swydd y Dirprwy Brif Weithredwr, mae'n dweud bod yna "ddigon yn yr hysbyseb i awgrymu bod y Gymraeg yn hanfodol". Mae'n cyfeirio at y ffaith hefyd taw Cymraes - Wendy Walters - sydd wedi ei phenodi i'r swydd honno.
'Parhau i ostwng'
Mae nifer o'r argymhellion sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad Gweithgor y Cyfrifiad yn galw am newidiadau mawr i'r gyfundrefn addysg. Y cynllun hir dymor yw sicrhau bod pob ysgol gynradd Saesneg yn cyflwyno'r cwricwlwm yn y Cyfnod Sylfaen yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe fuodd Dr Dylan Phillips yn dadansoddi ystadegau cyfrifiad 2011 ar ran Gweithgor y Cyfrifiad. Er yn llwyr gefnogol o'r ymdrechion, mae'n rhybuddio nad yw'n disgwyl cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2021.
"Dyw hynny ddim yn realistig mae arna i ofn... y gorau gallwn ni obeithio amdano yw ein bod ni'n cynnal rhyw lefel debyg i ganran siaradwyr Cymraeg 2011, ond y realiti yw o achos bod canran y siaradwyr mor ddibynnol ar y boblogaeth hŷn, wrth bod rheini yn marw 'mas, wrth bod y trosiant naturiol yn y boblogaeth yn digwydd, parhau i ostwng neiff canran y siaradwyr Cymraeg yn y rhan yma o'r byd am sawl degawd eto."
Mae'n rhybuddio bod angen meddwl am gynllun hir dymor fydd yn para 50 mlynedd: "Mae angen cael ateb soffistigedig i'r broblem a gweithredu mwyafrif llethol yr argymhellion.. ac nid yr argymhellion hyn yn unig ond mae dyletswydd ar lywodraeth Cymru i gynnig atebion hefyd."