Croeso Corawl yn torri tir newydd
- Cyhoeddwyd

Mae 'na newid i'r arlwy cyngherddau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn sgil cynllun corawl newydd, a gafodd ei lansio'r llynedd gan y Trefnydd Elen Elis.
Yn hytrach nag un côr Eisteddfod mawr yn canu gwaith clasurol, uchelgeisiol, mae nifer o gorau llai'r ardal yn dod at ei gilydd i berfformio ystod eang o ddarnau mwy cyfoes fel rhan o noson 'Croeso Corawl' y Brifwyl.
Nod y cynllun newydd oedd galluogi pobl i ymuno â chyfres o gorau cymunedol, a cheisio denu mwy o aelodau ifanc.
Roedd 'na gwyno wedi bod am strwythur côr Prifwyl Sir Gâr yn 2014, gyda rhai'n dweud bod diffyg aelodau o'r tu allan i Lanelli.
Mae'r prosiect newydd wedi gweithio gyda chorau sydd eisoes yn bodoli yn y dalgylch, yn ogystal â rhai sydd wedi'u creu o'r newydd ar gyfer yr Eisteddfod.
Nifer o gorau
Bu'r corau'n cynnal ymarferion ar wahân, yn ogystal ag ar y cyd dan ofal Jeff Howard, y trefnydd a'r arweinydd.
Mae ystod oed aelodau'r côr yn eang, gyda'r ieuengaf yn 16 a'r hynaf yn 80 mlwydd oed.
Mae tri chôr o'r ardal yn rhan o'r cynllun, sef:
- Côr Oedolion/Aelwyd Bro Ddyfi - arweinydd Mary Lloyd Davies (cwrdd yng Nghanolfan Glantwymyn)
- Côr Aelwyd Penllys - arweinydd Heulwen Davies (cwrdd yn neuadd bentref Llanfihangel)
- Côr newydd - arweinydd Elen Prysor (cwrdd yn Ysgol Gynradd Caersws)
Yn ymuno gyda Chôr yr Eisteddfod fydd y gantores o Fôn, Elin Fflur; Joshua Mills, tenor o Gastell-nedd a gipiodd dair o brif wobrau lleisiol Prifwyl Sir Ddinbych yn 2013; Bois y Steddfod a Cherddorfa Siambr Cymru.
'Swnio'n grêt'
Dywedodd y Trefnydd Elen Elis wrth Cymru Fyw ei bod yn hapus iawn gyda'r ffordd mae'r cynllun newydd wedi gweithio.
"Mae Jeff Howard yn gerddor arbennig. O'n i mewn ymarfer ychydig yn ôl yn Llanfair Caereinion ac roedd y côr yn swnio'n grêt. Ro'dd Medwyn Parry yno hefyd - sef uwch-gynhyrchydd y cyngherddau. Ro'dd o 'di gwirioni 'efo be glywodd o.
"Mae'n argoeli'n dda ar gyfer cyngerdd arbennig, ac mi fydd y côr yn canu cerddoriaeth amrywiol iawn.
"Dydy o ddim yn syniad newydd, gwahanol iawn, jyst ein bod ni wedi meddwl am y math o ensemble sy' o'n blaena' ni cyn dewis y math o gerddoriaeth o'ddan ni'n mynd i berfformio.
'Ystod eang o gerddoriaeth'
"Ma' rhaid meddwl be' yn union ma' nhw'n mynd i allu canu i'r safon ucha' posib a mwynhau'u hunain. Dyna 'da ni 'di trio'i 'neud. Mae 'na ystod eang o gerddoriaeth - mae 'na gospel, trefniannau o ddau emyn gan Jeff, sy'n arbennig, caneuon Cymraeg, darnau allan o sioeau cerdd, stwff clasurol.
"Mae 'di bod mor ddiddorol i bobl allu mynd i ymarfer a dysgu'r gerddoriaeth yma heb deimlo'i fod o'n rhy anodd iddyn nhw.
"Mae 'na ystod eang o oedran, sy'n canu'n dda efo'i gilydd. Mae angen yr ystod yna o oedran achos ma' lleisiau pobl yn wahanol. Mae'r cantorion hŷn 'efo lleisiau mwy crwn, a'r rhai iau 'efo lleisiau mwy disglair. Pan maen nhw efo'i gilydd mewn côr mawr, mae'r sain yn fwy crwn - sy'n bwysig iawn efo côr mawr."
Bydd cyngerdd 'Croeso Corawl' yn cael ei gynnal am 20:00 ar nos Sadwrn, 1 Awst, yn y pafiliwn.