Camgymeriad meddyginiaeth i glaf ysbyty 93 oed
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed na chafodd claf ysbyty 93 oed ei meddyginiaeth thyroid yn ddyddiol am bum wythnos oherwydd camgymeriad gweinyddol.
Bu farw Kathleen Neville o Gaerdydd o niwmonia ym mis Mawrth 2014 ar ôl cymhlethdodau wedi llawdriniaeth ar ei chlun.
Dywedodd y crwner nad oedd y camgymeriad wedi achosi na chyfrannu i'w marwolaeth.
Ond galwodd ar y Gweinidog Iechyd i sicrhau bod byrddau iechyd yn dilyn canllawiau ar gyfer rheoli meddyginiaeth.
Clywodd y cwest yng Nghaerdydd fod Ms Neville wedi ei chymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Tachwedd 2013 wedi iddi anafu ei chlun wrth ddisgyn.
'Camgymeriad enfawr'
Clywodd y gwrandawiad ei bod wedi cymryd meddyginiaeth thyroid am 10 mlynedd ac er bod y manylion ar ei ffurflenni ysbyty, ni chafodd y presgripsiwn ei ychwanegu i'w siart gyffuriau.
Sylweddolodd yr ysbyty nad oedd yn dilyn canllawiau rheoli meddyginiaeth Sefydliad Prydeinig Iechyd a Rhagoriaeth Gofal.
Dywedodd Dirprwy Grwner Caerdydd a'r Fro, Christopher Woolley, fod y methiant i roi'r feddyginiaeth i Ms Neville yn "gamgymeriad enfawr".
Ychwanegodd y byddai'n ysgrifennu at y gweinidog Mark Drakeford yn awgrymu bod pob bwrdd iechyd yn dilyn y canllawiau.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod wedi cyflwyno gwelliannau ac wedi cynnal ymchwiliad mewnol.