Y Gwyll i ddychwelyd am ail gyfres ym mis Medi

  • Cyhoeddwyd
Y GwyllFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,
Bydd DI Mared Rhys, DCI Tom Mathias a'r Prif Uwch-arolygydd Brian Prosser yn dychwelyd ar gyfer yr ail gyfres

Mae S4C wedi cadarnhau y bydd cyfres Y Gwyll yn dychwelyd i'r sgrin ar 13 Medi ar gyfer ei ail gyfres.

Bydd ail gyfres y ddrama dditectif yn cael ei darlledu gyntaf yn y Gymraeg am 21:00 nos Sul ar S4C, gydag isdeitlau Saesneg ar gael.

Mae Y Gwyll yn cael ei chynhyrchu ochr yn ochr â'r fersiwn Saesneg - Hinterland - a bydd fersiynau dwyieithog yn cael eu darlledu ar BBC Wales a BBC Four, gyda'r dyddiadau i'w cyhoeddi maes o law.

Bydd yr ail gyfres, gafodd ei ffilmio yng Ngheredigion, yn gweld pedwar achos cwbl newydd dros gyfnod o wyth pennod awr o hyd.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd: "Rydym yn hynod o falch o fod wedi comisiynu cyfres ddrama sy'n rhoi llwyfan i Gymru ar draws y byd.

"Mae wedi gwneud ei farc yn rhyngwladol oherwydd bod y ddrama yn uchelgeisiol, yn ddrama dditectif o safon uchel, sy'n cyfuno storïau gafaelgar a chymeriadau cynhyrfus, actio o'r radd uchaf, a gwerthoedd cynhyrchu a chyfarwyddo sy'n cwrdd â'n huchelgais."