Cyngor Gwynedd i ymgynghori ar doriadau o £9m
- Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno i ymgynghori ar becyn o doriadau sy'n debygol o olygu £9m o doriadau dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys "rhestr hir" o doriadau o £13m - ond gwerth £9m o'r rheiny fydd yn cael eu gweithredu.
Mae opsiynau yn cynnwys cael gwared ar gynllun brecwast am ddim a chodi prisiau cinio ysgol i £3.
Fe allai canolfannau hamdden a llyfrgelloedd gau.
Opsiwn arall yw dod â'r gwasanaeth cymorth i fusnesau i ben, yn ogystal â gwasanaeth sy'n darparu cefnogaeth i ofalwyr ifanc.
Dywedodd nifer o aelodau'r cyngor eu bod yn amharod i wneud y penderfyniad a galwodd yr arweinydd Dyfed Edwards ar y Canghellor George Osborne i gael gwared ar arfau niwclear yn hytrach na chyflwyno mwy o doriadau.
Yn dilyn yr ymgynghoriad bydd cynlluniau mwy manwl yn cael eu trafod gan y cyngor llawn.