'Dim digon o nyrsys yn cael eu hyfforddi'
- Cyhoeddwyd

Does dim digon o nyrsys yn cael eu hyfforddi i gwrdd â'r angen, yn ôl cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru.
Daw rhybudd Tina Donnelly wrth i ffigyrau ddaeth i law'r Ceidwadwyr Cymreig ddangos bod byrddau iechyd Cymru wedi gwario dros £190m ar feddygon a nyrsys asiantaeth dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Mae'r Ceidwadwyr nawr yn bwriadu gofyn i'r archwilydd cyffredinol ymchwilio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i fuddsoddi yn staff y gwasanaeth iechyd.
Mae'r ffigyrau a ddaeth i law y Ceidwadwyr Cymreig ar ôl iddyn nhw wneud cais o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth, yn dangos bod gwariant byrddau iechyd Cymru ar feddygon a nyrsys asiantaeth wedi cynyddu o £40m yn 2011/12 i dros £71m yn 2014/15.
Trafferth recriwtio
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wariodd fwyaf - £72m dros y pedair blynedd, sydd ddwywaith yr hyn wariodd unrhyw fwrdd iechyd arall.
Dros yr un cyfnod, Bwrdd Iechyd Powys wariodd leiaf - Ychydig dros £1m dros yr un cyfnod. Er hyn, roedd cynnydd yng ngwariant y bwrdd iechyd yma hefyd o £170,000 i £635,000 dros bedair blynedd.
Mae'r byrddau iechyd wedi dweud eu bod yn cael trafferth recriwtio doctoriaid a nyrsys newydd.
Dywedodd Ms Donnelly: "Dydyn ni ddim wedi bod yn hyfforddi digon o nyrsys dros y blynyddoedd diwethaf i gwrdd â'r galw.
"Rhan o'r gwariant ar asiantaethau yw nad ydyn ni wedi gweld codiad cyflog i nyrsys oni bai am yr 1% sy'n dod y flwyddyn yma.
"Mae nyrsys yn ei chael hi'n anodd ymdopi, felly maen nhw nawr yn ceisio gwneud sifftiau ychwanegol gydag asiantaethau am eu bod yn talu mwy."
'Safon yn gwaethygu'
Dywedodd Mr Millar: "Mae byrddau iechyd yn gwastraffu degau o filoedd o bunnau pob blwyddyn ar ffioedd asiantaethau oherwydd methiant Llywodraeth Lafur Cymru i fynd i'r afael â diffyg staff yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
"Nid yn unig yw doctoriaid a nyrsys yn dioddef pan fo lefelau staffio yn beryglus o isel - mae safon gofal yn gwaethygu hefyd."
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n disgwyl i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i fynd i'r afael â gwariant ar asiantaethau mewn nifer o ffyrdd gwahanol, ond mae'n rhaid i ni sylweddoli bod staff asiantaeth yn chwarae rôl bwysig yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
"Mae'r ffigyrau yn y cais rhyddid gwybodaeth yma yn cynrychioli cyfran fechan o'r £6.7bn o gyllideb ry'n ni'n gwario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru pob blwyddyn."
Straeon perthnasol
- 17 Gorffennaf 2015