Cynghorau ddim yn 'hybu' mynediad i addysg Gymraeg

Bws ysgol
Image caption Yn aml, mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n cael addysg Gymraeg deithio ymhellach

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi beirniadu cynghorau am fethu a "hybu" mynediad i addysg Gymraeg, rhywbeth mae yna ddyletswydd arnyn nhw i wneud.

Yn gynharach eleni fe ofynnodd Meri Huws i'r holl awdurdodau lleol ynglŷn â'r cludiant maen nhw'n ei ddarparu i fyfyrwyr ol-16 sy'n cael eu haddysg yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

Fe wnaeth 21 o'r 22 o gynghorau Cymru ymateb i'r arolwg gydag wyth yn cadarnhau eu bod yn codi tâl. Mae'r gost yn amrywio o £60 i £380 y flwyddyn.

Fe ddywedodd 13 cyngor bod dros hanner y myfyrwyr oedd yn cael addysg Gymraeg neu ddwyieithog yn ddibynnol ar drafnidiaeth ysgol.

Llythyr

Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr y mae Ms Huws wedi ei anfon at Prif Weinidog Cymru yn rhybuddio y gallai rhieni ddewis anfon eu plant i ysgolion neu golegau Saesneg yn hytrach na rhai Cymraeg o oherwydd y gost.

Yn aml, mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n cael addysg Gymraeg deithio ymhellach.

Yn y llythyr mae'r Comisiynydd hefyd yn nodi bod y gost a'r prinder cludiant cyhoeddus mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn "debygol o gael effaith anghymesur ar deuluoedd sydd ag incwm isel".

Image caption Mae Meri Huws wedi anfon llythyr ar Carwyn Jones yn mynegi pryder am y sefyllfa

Wrth drafod cyfrifoldeb awdurdodau lleol tuag at yr iaith dywedodd: "Er mai 'hybu' ac nid 'sicrhau' mynediad yw'r ddyletswydd, nid yw'n amlwg sut y gellir cyflawni'r ddyletswydd i hybu mynediad i addysg Gymraeg drwy fethu â darparu cludiant iddi.

"Ymddengys mai prin yw'r ystyriaeth a roddir i'r cymal hwn gan yr awdurdodau hynny sy'n dewis diddymu cludiant am ddim neu gludiant a gynorthwyir."

Mae Meri Huws yn annog Carwyn Jones i roi arweiniad cadarn i'r cynghorau a'u hatgoffa o'u dyletswydd i "hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg" fel sy'n cael ei nodi yn y Mesur Teithio 2008.

"Gofynnaf i chi danlinellu mai mater iaith Gymraeg sydd dan sylw, yn hytrach na mater cludiant yn unig", meddai Ms Huws.

'Cyflwyno cynllun'

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Bydd y Prif Weinidog yn ymateb i'r llythyr maes o law.

"Fodd bynnag, mae ein Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn datgan yn glir bod yn rhaid i awdurdodau lleol hyrwyddo mynediad i addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg wrth ystyried sut y maent yn darparu cludiant i ddysgwyr.

"Ym mis Medi, byddwn yn cyflwyno cynllun ar gyfer teithio ar fws am bris gostyngol i'r holl bobl ifanc yng Nghymru sy'n 16, 17 neu 18 oed, er mwyn iddynt allu teithio i gael addysg, hyfforddiant neu waith."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am ymateb.