Gwrthdrawiad: Cludo beiciwr modur i'r ysbyty

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae beiciwr modur wedi ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr M4 ger Caerdydd.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei galw ychydig cyn 09:20 i'r digwyddiad ar yr M4 i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffordd 32 (Cyfnewidfa Coryton) a chyffordd 33 (Gorllewin Caerdydd).

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:

"Fe gafodd dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau difrifol, ond nid yw ei fywyd mewn perygl."