Dedfryd ohiriedig i ddyn 'anonest'

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr achos yn Llys y Goron Caernarfon

Mae dyn 49 oed, oedd wedi dweud celwydd fod ei feic a'i ffôn wedi eu dwyn a'i fod wedi diodde oherwydd trosedd, wedi cael dedfryd ohiriedig.

Yn Llys y Goron Caernarfon cafodd Paul Cleverley o Gaergybi ddedfryd o wyth mis o garchar wedi ei gohirio am flwyddyn.

Dywedodd y Cofiadur John Philpotts ei fod yn "ddyn anonest".

Roedd wedi pledio'n euog i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder wedi iddo ddweud celwydd wrth yr heddlu a derbyn £4,154 oddi wrth gwmni yswiriant.

Cafodd ei wraig rybudd wedi iddi gadarnhau ei stori yntau.

Bydd rhaid iddo wneud 150 o oriau o waith di-dâl, mynychu cwrs "sgiliau meddwl" a thalu £500 o gostau.