Protest cig oen mewn archfarchnad yng Nghaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Aled Scourfield fu'n holi Michael Owens, un o drefnwyr y brotest
Mae tua 100 o ffermwyr wedi bod yn protestio yn archfarchnad Tesco yng Nghaerfyrddin.
Gwrthwynebu y maen nhw'r pris mae'r archfarchnad yn ei dalu am gig oen a faint o gig sy'n cael ei fewnforio a'i werthu yn yr archfarchnad.
Yn ôl ffigyrau Hybu Cig Cymru, mae prisiau ŵyn wedi gostwng tua 20% ar gyfartaledd eleni.
Dywedodd llefarydd ar arn Tesco: "Rydyn ni'n cydnabod safon cig oen o Brydain ac yn falch iawn o fod y prynwr mwyaf.
'Pris rhesymol'
"I sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael cig oen o safon am bris rhesymol trwy gydol y flwyddyn, rydyn ni'n ei gael o'r DU a Seland Newydd."
Yn y cyfamser, ar ôl cwrdd yn y Sioe Frenhinol yr wythnos ddiwethaf mae criw o ffermwyr defaid hefyd wedi dechrau ymgyrch ar Twitter sydd wedi cael cefnogaeth ledled Prydain.
Bwriad ymgyrch No Lamb Week o Awst 1-8 yw tynnu sylw yr archfarchnadoedd a'u cwsmeriaid at sefyllfa'r ffermwyr.