Hen safle clwb nos i gartrefu cyngor Abertawe?

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Luminar
Disgrifiad o’r llun,
Bydd hen adeilad clwb nos Oceana yn cael ei ddymchwel ym mis Hydref

Fe allai'r safle oedd yn arfer cartrefu clwb nos mwyaf Abertawe ddod yn bencadlys newydd cyngor a llyfrgell Abertawe.

Bydd hen adeilad clwb nos Oceana yn cael ei ddymchwel ym mis Hydref a bydd bloc o swyddfeydd yn cael ei adeiladu yn ei le.

Daw fel rhan o gynllun y cyngor i drawsnewid Ffordd y Brenin i ardal fusnes.

Mae'r awdurdod yn symud o'i safle presennol yn y bae fel rhan o gynllun i adfywio canol y ddinas sydd i ddechrau yn 2017.