Plaid Cymru: Leanne Wood yn gwadu bod rhaniad yn y blaid

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Leanne Wood ei sylwadau mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mae Colwyn nos Iau

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi gwadu bod rhaniad yn y blaid yn dilyn trafodaethau am ddyfodol yr Arglwydd Elis-Thomas.

Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas, sydd wedi ei ddewis fel ymgeisydd y blaid ar gyfer Dwyfor Meirionnydd yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf, wedi cael ei feirniadu gan rai yn dilyn cyfweliadau a roddodd yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

Credir iddo ennill pleidlais o gefnogaeth gan aelodau ei etholaeth nos Fawrth, ond ei fod hefyd yn wynebu galwad i gyfaddawdu.

Mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mae Colwyn nos Iau, dywedodd Leanne Wood: "Dydw i ddim yn derbyn bod rhaniadau yn Plaid Cymru.

"Mae anghytundebau wedi bod gydag un aelod a gweddill y blaid. Ni fyddwn i yn galw hynny yn rhaniad mewn unrhyw ffordd.

Yn y cyfarfod, fe ofynnodd ddau berson am undod yn y blaid, a rhoi eu cefnogaeth i Ms Wood.

Disgrifiad o’r llun,
Credir i'r Arglwydd Elis-Thomas ennill pleidlais o gefnogaeth yn y cyfarfod nos Fawrth