Rhwydo dros Gymru

  • Cyhoeddwyd
cymruFfynhonnell y llun, Lisa Birchall

Bydd Pencampwriaeth Pêl-rwyd y Byd 2015 yn dechrau yn Sydney ar 7 Awst. Suzy Drane, capten y tîm fu'n trafod gobeithion carfan merched Cymru yn y gystadleuaeth:

Sut mae'r paratoadau wedi bod?

Mae'r paratoadau wedi bod yn wych. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cymryd ein hamser yn paratoi'n golygu nad oedd gormod o effaith o'r jet lag, ac roeddem ar y cwrt cyn gynted â phosib.

Mae'r ymarfer wedi mynd yn dda, a da ni'n rhoi'r touches gorffenedig i rhai o'r pethau bach fydd yn gwneud y gwahaniaeth, yn ein gemau ymarfer cyn Cwpan y Byd.

Fiji, sydd safle yn uwch na chi yn netholion y byd, ydi'r gwrthwynebwyr cyntaf. A'i hon fydd gêm anodda yn y grŵp?

Fyddwn ni ddim yn cymryd yr un tîm yn ysgafn a fydd yna ddim gemau hawdd, wedi'r cwbl dyma Gwpan Y Byd a bydd pob tîm yn brwydro i orffen yn y safle gorau posib.

Gyda Fiji uwch ein pennau yn y rhestr detholion dwi'n siŵr y bydd hi'n gêm dda ac yn lawn cyffro. Dy'n ni yn barod ar gyfer y gêm gyntaf ac mi fyddwn ni yn cymryd pob gêm yn ei thro wedi hynny.

Ffynhonnell y llun, Steve Pope
Disgrifiad o’r llun,
Suzy Drane yn chwarae yn erbyn Lloegr

Nawfed oedd Cymru yng Nghwpan y Byd 2011, oes gwell gobaith gan y garfan eleni?

Mae gan y garfan yma'r potensial i wneud pethau mawr a gwneud yn dda yn y pencampwriaethau yma. Dy'n ni yn canolbwyntio ar y broses a'r perfformiad, ac yna bydd y canlyniadau yn dod.

Bydden ni'n edrych i orffen yn yr wyth uchaf. Unwaith 'da ni drwy'r rowndiau grŵp cyntaf mi 'nawn ni ail-asesu'r timau yn ein ail grŵp a'i chymryd hi o fanna.

Mae gwybod ein bod wedi perfformio ar ein gorau yn Sydney yn ddigon o lwyddiant yn ei hun.

Ydi gweld timau chwaraeon eraill o Gymru yn gwneud mor dda, yn enwedig ein tîm pêl-droed cenedlaethol yn eich ysbrydoli a rhoi hyder i chi fel carfan?

Wrth gwrs. Mae 'na amcan ym mhob camp i fod y gorau allen ni fod. Mae'n wych gweld rhai o dimau cenedlaethol eraill Cymru yn llwyddo yn eu campau, ac mae'n sicr yn rhoi ysbrydoliaeth i ni.

Ydi hi'n anodd dod o hyd i amser i ymarfer a pharatoi o ystyried bod ganddoch chi swyddi eraill?

Wrth gwrs mae hi'n gallu bod yn her a 'dyn ni i gyd wedi aberthu lot i wneud yn siŵr bo' ni'n ffeindio amser i ymarfer, ond dydi hi byth yn hawdd chwarae ar y lefel uchaf yn unrhyw gamp.

Dwi'n lwcus gan fod fy nghyflogwyr, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, wedi bod yn hynod o gefnogol.

Yr hyn sydd yn fy ysgogi i yw fy nghyd-chwaraewyr, yr hyfforddwyr a rheolwyr, y cyfleoedd dwi'n eu cael a'r gefnogaeth gan deulu a ffrindiau.

Ffynhonnell y llun, Steve Pope

Ydi pêl-rwyd mewn sefyllfa gref yng Nghymru?

Wrth gwrs, mae pêl rwyd yn un o'r gemau tîm amlycaf i ferched yng Nghymru.

Mae hanes ar ei ochr gan fod yn cael ei ddysgu ymhob un o ysgolion uwchradd Cymru, felly dylai pob merch yng Nghymru fod wedi cael y cyfle i chwarae pêl rwyd. Fedrwch chi ddim dweud hynny am nifer o gampau eraill yng Nghymru!

Gallen wneud gwahaniaeth i ferched Cymru trwy eu hysbrydoli i gymryd rhan, nid yn unig mewn pêl rwyd ond i gymryd rhan mewn chwaraeon yn gyffredinol.

Pa welliannau yr hoffet ti eu gweld i bêl rwyd yng Nghymru erbyn Cwpan y Byd 2019 yn Lerpwl?

Dwi'n meddwl bod wastad potensial i'r gêm. dyfu. Byddai rhagor o sylw i'r gamp gan y cyfryngau yn help yn ogystal â chefnogaeth ariannol gan noddwyr.

Rwy'n siŵr wedyn bydd mwy o role models yn cael eu creu o fewn y gamp er mwyn ysbrydoli merched eraill ein cenedl.