Cyrchoedd Aur: Cyhuddo naw o bobl

  • Cyhoeddwyd

Mae naw o bobl o ogledd Cymru a Swydd Gaer wedi eu cyhuddo fel rhan o'r ymchwiliad i gyfres o ladradau gemwaith aur yn yr ardal.

Fe gafodd cyrchoedd eu cynnal yn Wrecsam a Sir y Fflint ddydd Mercher, wedi i aur oedd yn eiddo i deuluoedd Asiaidd gael ei ddwyn mewn cyfres o fyrgleriaethau yn ystod y pum mis diwethaf.

Bydd dau ddyn yn ymddangos o flaen ynadon Wrecsam ddydd Gwener gyda phump o bobl eraill i ymddangos yn y llys ym mis Medi.

Mae'r cyhuddiadau yn cynnwys cynllwynio i gyflawni byrgleriaethau yng Nghymru a Lloegr a chynllwynio i ddwyn cerbydau modur.

Mae troseddau eraill yn ymwneud ag eiddo a feddiannwyd o dan y Ddeddf Elw Troseddau.

Mae dau o bobl eraill hefyd wedi cael eu cyhuddo yn ardaloedd Heddlu Manceinion a Gorllewin Mersia.

Roedd mwy na 100 o swyddogion yr heddlu yn rhan o ymgyrch Analog a oedd yn cynnwys 18 o warantau chwilio a arweiniodd at ad-feddiannu eiddo "o werth uchel".